Grŵp Ymchwil Addysg Athrawon ArDdysg

Mae Grŵp Ymchwil Addysg Athrawon ArDdysg yn y Brifysgol Agored yn canolbwyntio ar hybu ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn addysg athrawon a dysgu proffesiynol. Mae’n dwyn ymchwilwyr ynghyd sydd ag ystod o ddiddordebau a phrofiad mewn ymchwil addysgol. Mae’r grŵp yn croesawu cyfleoedd i weithio â phartneriaid mewn ysgolion, prifysgolion a’r trydydd sector, ledled Cymru a thu hwnt.

Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys enghreifftiau o brif feysydd ymchwil, prosiectau cyfredol a diweddar ac adnoddau a all fod yn ddefnyddiol i chi. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Glover.

 

Meysydd ymchwil

  • Hawliau Plant
  • Addysgeg greadigol
  • Cwricwlwm i Gymru
  • Datblygiad plentyndod cynnar
  • Rhywedd a chwarae
  • Dulliau addysg athrawon rhyngwladol
  • Caffael iaith
  • Llesiant dysgwyr (mewn ysgolion ac addysg athrawon)
  • Dysgu ac addysgu Mathemateg a Rhifedd
  • Mentora mewn addysg athrawon
  • Addysg gwyddoniaeth
  • Addysgeg sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr
  • Cynaliadwyedd
  • Cydraddoldeb cymdeithasol a chyfiawnder mewn addysg
  • Hunaniaeth broffesiynol athrawon
  • Technoleg mewn addysg
  • Addysg cyfrwng Cymraeg