Prosiectau ysgoloriaethau ymchwil

Datblygu sgyrsiau proffesiynol (2023-24)

Wedi’i hariannu gan Ganolfan PRAXIS Ysgolheictod ac Arloesi Cyfadran Llesiant, Addysg ac Iaith y Brifysgol Agored, bydd yr astudiaeth hon yn rhoi mewnwelediad i’r ‘sgyrsiau proffesiynol’ y mae Tiwtoriaid Ymarfer y Partneriaethau’n eu cael ag athrawon dan hyfforddiant a mentoriaid.

 

ZEST (Zambia Education School-based Training) (2023-24)

Mewn cydweithrediad â World Vision Zambia ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth yr Alban; mae prosiect Ymchwil Weithredol gydag athrawon yn Zambia yn edrych ar eu myfyrdodau ar ddefnyddio dulliau addysgu a dysgu gweithredol ZEST.

 

Helpu i bennu targedau personol ar gyfer athrawon gyrfa gynnar (2023-24)

Mewn partneriaeth ag Ysgol Nantgwyn ac wedi’i ariannu gan Gonsortiwm Canolbarth y De, mae’r prosiect ymchwil cyfranogol hwn yn datblygu fframwaith cydweithredol ar gyfer athrawon gyrfa gynnar i’w helpu i bennu targedau personol.

 

Defnyddio technoleg fideo i fyfyrio ar wersi (2022-23)

Wedi’i ariannu gan Ganolfan PRAXIS Ysgolheictod ac Arloesi Cyfadran Llesiant, Addysg ac Iaith y Brifysgol Agored, mae’r astudiaeth hon wedi gwella dealltwriaeth o fuddiannau a heriau defnyddio technoleg fideo ar wersi. Mae cronfa o adnoddau wedi’i chreu gan y prosiect i helpu ysgolion partner ac athrawon dan hyfforddiant. Adroddiad y prosiect <https://oro.open.ac.uk/92423/>.

 

Mentora effeithiol mewn ITE: Beth sy’n gweithio a pham (2021-22)

Cafodd y gwaith ymchwil hwn ei ariannu gan Ganolfan PRAXIS Ysgolheictod ac Arloesi Cyfadran Llesiant, Addysg ac Iaith y Brifysgol Agored. Mae’n defnyddio arteffactau i edrych ar ddulliau mentora ar draws Partneriaeth OU ITE. Mae casgliad o astudiaethau achos yn dangos gwahanol gyd-destunau mewn gwahanol ysgolion. Adroddiad y prosiect.

 

Gweithredu Cwricwlwm i Gymru (2021-23)

Gan weithio ag Arad Research (a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru), cyfres o astudiaethau a gwblhawyd: astudiaeth gwmpasu i ddeall parodrwydd y sector ar gyfer y cwricwlwm newydd, gan gynnwys ymchwil ansoddol ag ymarferwyr; a deall sut mae’r cwricwlwm a diwygiadau i asesiadau’n gweithio i ymarferwyr a dysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau, a’r rhwystrau a’r hwyluswyr i weithredu llwyddiannus (adroddiadau Wave 1, Wave 2).