You are here

  1. Home
  2. Research
  3. Projects
  4. Take Five to Age Well
  5. Pum Cam i Heneiddio'n Dda: Grymuso'r DU i fyw bywydau hirach ac iachach

Pum Cam i Heneiddio'n Dda: Grymuso'r DU i fyw bywydau hirach ac iachach

A ydych eisiau byw’n iach yn hirach? Rydych yn y lle cywir.

Mae Pum Cam i Heneiddio'n Dda yn cynnig pum cam y gallwch eu cymryd i wella eich iechyd a'ch llesiant. Mae'r ymgyrch, a gaiff ei lansio ar 1 Medi, yn eich gwahodd i ymuno â chymuned y DU gyfan i wneud newidiadau bach yn ddyddiol er mwyn heneiddio'n well. Rydym yn gofyn i chi ddewis y newid/newidiadau iach a chadw atynt am fis cyfan, ac addo i heneiddio'n dda.

Byddwn yn eich cefnogi i droi'r newidiadau hynny yn arferion a fydd yn sicrhau iechyd a llesiant yn yr hirdymor.

Pam gwneud addewid?

Mae pawb yn dymuno cael treulio mwy o amser ar y Ddaear mewn iechyd da, ac mae gwyddoniaeth yn dangos y gall bron pob un ohonom, ni waeth beth fo'n genynnau, wneud pethau yn systematig i gynyddu am faint y gallwn fyw mewn iechyd da - er mwyn sicrhau ein galluoedd meddyliol a chorfforol cyhyd ag sy'n bosibl. Nid oes gennych ddewis p'un a ydych yn heneiddio ai peidio, ond mae'r ffordd rydych yn heneiddio yn eich dwylo chi.  Mae arferion syml a all eich helpu i gadw'n gryf, cadw meddwl craff, bod yn annibynnol a gwneud i chi deimlo'n dda; bydd Pum Cam i Heneiddio'n Dda yn eich grymuso i fabwysiadu'r arferion hyn dros gyfnod o fis.

Mae pum maes lle y gallwch ddewis arferion newydd:

Mae'r hyn rydych yn ei fwyta yn effeithio arnoch! Mae'r ymadrodd hwn yn wir - gall bwyta'n iach wella eich iechyd a'ch hwyliau, a'ch helpu i fyw'n hirach. Gall deiet da a phwysau iach arwain at fywyd hirach, iachach a hapusach, a byddwn yn eich helpu drwy anfon ryseitiau a chanllawiau ar fwyta'n iach.

Dewiswch addewid:

  • Brecwast: bwytewch frecwast maethlon bob dydd
  • - Bwyta llai yn amlach: bwytewch ddognau llai yn fwy aml yn ystod y dydd
  • - Bwyta'r Enfys: bwytewch o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd

Wrth i chi heneiddio, nid yw'r ymennydd bob amser yn dweud wrthych fod eisiau rhywbeth i'w yfed arnoch chi, ac mae nifer o bobl yn mynd yn ddadhydredig fel cyflwr cronig. Nid yw hyn yn beth llesol i'ch iechyd corfforol nac i'ch gweithrediad gwybyddol, megis eich cof. Hefyd, mae diodydd alcoholig, te a choffi yn ddiwretigion, sy'n golygu y gallant eich dadhydradu ymhellach.

Dewiswch addewid:

  • Dŵr: yfwch rhwng chwech ac wyth gwydraid o ddŵr bob dydd
  • Llai o gaffein: rhowch derfyn ar y nifer o baneidiau o de a choffi a gewch y dydd
  • Gwasgwch y sudd: yfwch suddion ffrwythau a diodydd pefriog ar achlysuron arbennig yn unig
  • Yfwch lai o alcohol: ceisiwch beidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos

Rydych wedi cael eich creu i symud. Mae bod yn egnïol yn allweddol i sicrhau bywyd hirach a hapusach a gall leihau'r risg o bopeth, o ganser i glefyd y galon a chlefyd Alzheimer. Ond, nid yw'n hawdd i bawb, ac rydym yma i'ch cefnogi i symud mwy, ni waeth pa mor heini yr ydych yn ei deimlo ar hyn o bryd.

Dewiswch addewid:

  • Cerdded: cerddwch am o leiaf 15 munud, ddwywaith y dydd
  • Pŵer: gwnewch dri ymarfer corff sydyn i'r galon (rhwng chwech a deg munud) bob dydd
  • Sefyll: codwch a symudwch am bum munud neu fwy bob awr yn ystod y dydd
  • Cryfder a hyblygrwydd: dilynwch fideo ymarfer corff byr (rhwng 15 ac 20 munud) ar-lein sy'n rhad ac am ddim unwaith y dydd

Mae unigrwydd yn effeithio ar filiynau o bobl ac mae'r nifer o bobl sy'n dioddef o unigrwydd cronig wedi cynyddu ers y pandemig. Mae hyn yn effeithio ar eich iechyd corfforol a'ch iechyd meddwl yn fawr. Rydym yma i'ch helpu i gysylltu ac ymgysylltu ag eraill fel rhan o'ch addewid Pum Cam i Heneiddio'n Dda.

Dewiswch addewid:

  • Cysylltu: ffoniwch neu ewch i gwrdd â ffrind neu aelod o'r teulu am sgwrs bob dydd
  • Dewch i adnabod eich cymdogion: dewch i adnabod eich cymuned a cheisiwch siarad â rhywun bob dydd, hyd yn oed os bydd hynny i ddweud 'helo' yn unig
  • Rhannu hobi: dechreuwch hobi newydd a'i rannu ag eraill o bosibl

Ei ddefnyddio neu ei golli – mae hynny'n wir am yr ymennydd. Mae eich ymennydd yn crebachu wrth i chi heneiddio, ond gallwch barhau i fod â meddwl craff drwy herio eich ymennydd ac ymgysylltu â phobl, gwneud posau a chwarae gemau. Mae gennym lawer o syniadau i'ch sbarduno a byddwn yn rhannu'r rhain yn ystod yr addewid.

Dewiswch addewid:

  • Dysgu: dysgwch neu gwnewch rywbeth newydd a'i rannu ag eraill o bosibl
  • Chwarae: gwnewch bosau a chwaraewch gemau yn ddyddiol
  • Bod yn ymwybodol: oedwch a chymerwch sylw o'r hyn sydd o'ch amgylch am o leiaf munud, tair gwaith y dydd

 

Awgrymiadau ar gyfer eich addewidion

Addewidion penodol: dewiswch rywbeth penodol a sicrhewch ei bod yn fesuradwy - er enghraifft, mae'n bosibl y byddwch yn dymuno bwyta chwe darn o ffrwyth neu lysieuyn y dydd neu yfed wyth uned yn unig o alcohol neu gerdded am 30 munud bob dydd. Beth bynnag yw'r addewid - gwneud yn siŵr y gallwch ei fesur.

Addewidion cyraeddadwy: rydych yn adnabod eich hun yn well na neb - dewiswch addewidion sy'n heriol ond y gallwch eu cyflawni. Cofiwch, mae angen i chi wneud hyn bob dydd, felly sicrhewch eu bod yn rhai y byddwch yn gallu eu cyflawni.

Mae Pum Cam i Heneiddio'n Dda, a ddatblygwyd gan Y Brifysgol Agored, yn seiliedig ar y gyfres lwyddiannus o Sgyrsiau Cyhoeddus am Heneiddio'n Dda a'i Phum Piler i Heneiddio'n Dda. Rydym yn gweithio ar y cyd â sawl elusen a sefydliad arall sy'n cefnogi pobl i heneiddio'n iach. Bydd yr addewid yn parhau am 30 diwrnod, a byddwn yn casglu gwybodaeth am sut yr aeth pobl ati i greu a chynnal arferion newydd fel rhan o'r addewid.

Drwy wneud addewid i heneiddio'n well, bydd cyfranogwyr yn dod yn fodelau rôl i'r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol.

Ymunwch â ni ym mis Medi: Cofrestrwch yma!