Mae Dr. Vseteckova yn academydd yn y Brifysgol Agored lle y mae'n gwneud gwaith ymchwil, addysgu, goruchwylio a chydweithio'n allanol. Mae'n arwain ac yn cyflwyno'r Sgyrsiau Cyhoeddus am Heneiddio'n Dda ac mae ganddi ddiddordeb mewn polisi a chynllunio ym maes iechyd, iechyd cyhoedd y cyhoedd ac addysg. Mae'n frwd dros heneiddio'n dda ac yn canolbwyntio'n bennaf ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn y maes hwn.
Mae gan Rachel gefndir ym maes cyfleu'r gwyddorau, ac mewn rhaglenni dogfen yn bennaf. Mae wedi gweithio ar ymgyrchoedd a digwyddiadau ac mae ganddi gyfoeth o brofiad ym maes ymgysylltu. Caiff ei chymell gan faterion cyfiawnder troseddol ac mae'n grediniwr mawr yn effaith addysg a grymuso.
Mae'r Athro Herodotou yn academydd yn Y Brifysgol Agored sy'n gwneud gwaith ymchwil ar dechnolegau addysgu a chyfiawnder cymdeithasol. Mae'n arwain nQuire sef y llwyfan uchel ei fri ar wyddoniaeth gymunedol a gwyddoniaeth y dinesydd. Mae'n awyddus i ennyn diddordeb pobl mewn gweithgareddau ymchwil mewn ffyrdd sy'n galluogi dysgu gydol oes a datblygiad personol.
Niwroseicolegydd Siartredig a Thiwtor Staff, Ysgol Seicoleg a Chwnsela, Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Y Brifysgol Agored. Mae Sinead wedi gweithio yn y byd academaidd ers dros 20 mlynedd ac mae ei chefndir ym maes Niwroseicoleg, gyda ffocws ar Seiliau Biolegol anhwylderau bwyta. Mae gan Sinead hefyd ddiddordeb mawr ym maes anhwylderau bwyta ac mae'n cynnal ymchwil ym maes ‘Bwyta Greddfol ac iechyd yr ymennydd’.
Mae Erica yn Seicolegydd Iechyd Cofrestredig ac yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Swydd Bedford. Mae ganddi ddiddordeb byw yn yr hyn sy'n ysgogi ymddygiad pobl, yn enwedig ar lefel y boblogaeth, ac mae'n defnyddio ei gwybodaeth a'i phrofiad i ddeall a hwyluso newid cadarnhaol mewn ymddygiad i wella canlyniadau o ran iechyd.
Mae Ali yn academydd ac yn seicolegydd siartredig ac yn gweithio ym Mhrifysgol Swydd Bedford. Mae ganddi ddiddordebau addysgu ac ymchwil ym maes seicoleg wybyddol ac mae'n awyddus i ddeall sut y gallwn ddiogelu iechyd ein hymennydd wrth i ni fynd drwy fywyd.
Doug yw rheolwr Iechyd a Llesiant Age Scotland, sef elusen genedlaethol yr Alban i bobl hŷn. Mae'n weithiwr proffesiynol profiadol yn y trydydd sector mewn amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys ym maes cyfathrebu ac ymgyrchoedd, dysgu cymunedol a datblygu a rheoli prosiectau.
Mae cefndir proffesiynol Gráinne ym maes iechyd, ac mae ganddi ddiddordeb penodol yn y ffyrdd y gall pob un ohonom wneud newidiadau bach a chyraeddadwy i wella a chynnal ein hiechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol drwy gydol bywyd. Mae'n chwilio am ffyrdd o drosi ymchwil academaidd yn ddatrysiadau yn y byd go iawn ac fel ymchwilydd a ddaeth yn anabl yn oedolyn, mae'n ymwybodol iawn fod gan bawb alluoedd gwahanol a heriau posibl wrth wneud newidiadau i'w harferion.
E-bost: ageing-well-pledge@open.ac.uk