You are here

  1. Home
  2. Schools
  3. Education, Childhood, Youth and Sport
  4. PGCE (available in Wales only)
  5. Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yng Nghymru

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yng Nghymru

Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig yr unig gwrs TAR o bell yn y DU. Boed ydych yn gweithio mewn ysgol neu'n awyddus i newid cyfeiriad eich gyrfa (a chyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad hyn), cewch astudio gyda ni ac ennill yr holl sgiliau a'r profiad sydd ei angen arnoch i ddod yn athro. Byddwch yn dysgu sut i gefnogi disgyblion a datblygu eu potensial ar draws pob maes dysgu - yn enwedig llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. A byddwch yn cyflawni rôl bwysig yn cefnogi i hyrwyddo diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg.

Agor y drws at yrfa addysgu

Er mwyn dod yn athro, mae angen i chi gyflawni Statws Athro Cymwysedig (SAC) drwy ddarparwyr achrededig yng Nghymru a gallwch gyflawni'r statws hwnnw gyda ni drwy ymarfer eich addysgu mewn dwy ysgol wahanol yng Nghymru. Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i weithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, a chewch ddefnyddio'ch cymhwyster TAR i addysgu yn Lloegr hefyd. Mae'r rhan fwyaf o raddedigion yn mynd yn athrawon, ond mae'r cymhwyster TAR hefyd yn agor drysau at amrywiaeth o swyddi yn y byd addysg, megis adrannau addysg awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol yng Nghymru a seicoleg addysgol.

Astudiwch yn rhan amser neu fel myfyriwr cyflogedig

Dyma'r unig Gynllun ar sail Cyflogaeth i fyfyrwyr y cwrs TAR yng Nghymru, ac os ydych eisoes yn gweithio mewn ysgol fel cymhorthydd addysgu neu mewn swydd nad ydyw’n ymwneud ag addysgu, mae'n eich galluogi chi i gymryd llwybr cyflogedig i'ch TAR drwy wneud cais i'ch ysgol noddi eich astudiaeth. Byddwch yna'n astudio yn unol â'ch dyletswyddau yn eich ysgol bresennol fel rhan o’ch cyflogaeth lawn amser a bydd costau eich astudiaeth yn cael eu talu drwy grant hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru. Os nad ydych eisoes yn gweithio mewn ysgol, neu os nad yw'r llwybr cyflogedig yn addas ar eich cyfer chi, mae opsiwn rhan amser ar gael. Dyma'r unig opsiwn TAR rhan amser yn y DU, ac mae'n eich galluogi chi i ennill profiad addysgu ymarferol mewn ysgol wrth weithio ochr yn ochr â swydd ran amser neu ymrwymiadau eraill mewn bywyd. Gallwch wneud cais am fenthyciad myfyrwyr a grantiau cynhaliaeth rhan amser i helpu gyda'r costau.

Dysgu gan athrawon profiadol

Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy ddysgu ar-lein a seminarau byw ar-lein, felly gallwch astudio gartref, yn yr ysgol, neu le bynnag fynnoch chi. Byddwch yn defnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir i gael mynediad at diwtorialau byw ac wedi'u recordio, gwerslyfrau, fideo a sain. Bydd tiwtoriaid cwricwlwm arbenigol a mentoriaid mewnol yn yr ysgol yn eich cefnogi ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac mae Tîm Cymorth i Fyfyrwyr pwrpasol wrth law i roi cymorth ac arweiniad i chi drwy gydol eich astudiaethau. Yn ogystal, gallwch gysylltu â'ch cyd-fyfyrwyr drwy ein grwpiau trafod modiwl, felly ni fyddwch byth ar eich pen eich hun.

Yn barod i ddechrau'ch cwrs TAR yng Nghymru? Mae manylion llawn y cwrs i'w cael yma