Dyma ein tudalen gofrestru. Gallwch ei chwblhau'n gyflym ac yn hawdd ac mae'n rhad ac am ddim.
Nod yr addewid hwn yw gwneud newidiadau bach yn ddyddiol er mwyn cael effaith gadarnhaol, hirdymor ar eich iechyd a'ch llesiant. Ymunwch â'r gymuned o addewidwyr sy'n tyfu a fydd yn eich cefnogi ar hyd y ffordd. Gallwch ymuno yn rhad ac am ddim, felly nid oes gennych ddim byd i'w golli.
Gallwch. Os ydych yn ofalwr, neu'n cefnogi rhywun sydd am gymryd rhan yn yr addewid ond nad yw'n gallu defnyddio'r rhyngrwyd, gallwch gofrestru ar ei ran a'i helpu gyda'i addewid. Beth am gofrestru gyda'ch gilydd?
Hon yw ein blwyddyn gyntaf, felly dim ond opsiwn digidol sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae'n bosibl eich bod yn adnabod rhywun a allai eich helpu i gofrestru ar-lein, neu fe allech ddefnyddio'r rhyngrwyd yn eich llyfrgell leol. Ar gyfer blynyddoedd i ddod, byddwn yn gwrando ar adborth ac yn ystyried a oes angen opsiynau ychwanegol ar addewidwyr i ymuno.
Gallwch, gwnewch da chi – mae ymuno ag eraill yn ei gwneud hi'n haws i chi gyflawni'r addewid oherwydd gallwch gefnogi ac annog eich gilydd.
Gallwch. Er bod yr addewid wedi'i anelu at bobl sy'n byw yn y DU, sy'n gweithio gyda phartneriaid yn y DU, mae croeso i bawb fod yn rhan o'r addewid, lle bynnag rydych wedi'ch lleoli.
Gallwch. Er ein bod yn ceisio annog y rhai hynny sy'n 50+ oed, mae'r addewid o fudd i iechyd pawb, ac ar gael i bawb.
Mae'r addewid yn addas i bawb, ni waeth beth yw eich cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Mae wedi'i ddylunio i fod yn hyblyg o ran eich anghenion a'ch dymuniadau. Rydym yn eich annog i bersonoli eich addewid am mai chi sy'n gwybod beth sy'n gweithio i chi - gallwch deilwra ymrwymiadau eich addewid er mwyn herio eich hun ond hefyd sicrhau eu bod yn rhai y gallwch eu cyflawni.
Os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd, cysylltwch â'ch meddyg teulu. Nid yw'r addewid yn cynnig cyngor meddygol.
Mae gennym wefan o'r enw nQuire lle y gallwch greu proffil a rhannu gwybodaeth am eich gweithgareddau - mae'n ffordd wych o gysylltu ag eraill a gwneud cofnod o'ch cyflawniadau.
Rydym yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd drwy roi anogaeth, syniadau ac awgrymiadau dros e-bost i'ch helpu i gyflawni'r addewid. Rydym hefyd wedi creu hyfforddwr Whatsapp am ddim a all anfon negeseuon atgoffa a chymorth atoch yn ddyddiol.
Mae gennym nifer cynyddol o bartneriaid yn cymryd rhan yn yr addewid, gan gynnwys Ymddiriedolaethau'r GIG ac elusennau o bob cwr o'r DU. Er mwyn gweld rhestr lawn, ewch i'r dudalen Partneriaid ar y wefan hon.
Rydym yn gweithio'n agos gyda sawl llysgennad adnabyddus er mwyn lledaenu’r neges am yr addewid. Mwy yn y man!
Hoffem glywed gennych – cysylltwch â Rachel: ageing-well-pledge@open.ac.uk.
Hoffem glywed gennych. Er ein bod wedi cael ein hariannu'n llawn ar gyfer 2023, byddai cefnogaeth i barhau â'r addewid yn y blynyddoedd sydd i ddod yn wych – cysylltwch ag Alison Brown: ageing-well-pledge@open.ac.uk.
Caiff y prosiect ei ariannu gan Y Brifysgol Agored a Connected Northern Ireland yn 2023. Rydym yn archwilio opsiynau ariannu ar gyfer cynnal yr addewid yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.
Ategir yr addewid gan ymchwil academaidd gan Y Brifysgol Agored yn bennaf. Mae Dr. Jitka Vseteckova, academydd arweiniol y prosiect, yn rhedeg Sgyrsiau Cyhoeddus Heneiddio'n Dda ac mae wedi sefydlu Pum Piler Heneiddio'n Dda y mae'r addewid yn seiliedig arnynt.
Mae'r addewid hefyd yn defnyddio gwaith ymchwil blaenllaw eraill, gan gynnwys arbenigedd Dr. Erica Cook ar newid ymddygiad.
Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan academyddion eraill a hoffai gymryd rhan yn yr addewid, gan gynnwys ein helpu i atgyfnerthu ei effeithiau.
E-bost: ageing-well-pledge@open.ac.uk